Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio
13 Mai 2015, Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel
Nodyn y Cyfarfod ar faeth mewn lleoliadau gofal
Yn bresennol |
Ymddiheuriadau |
Mike Hedges AC - CADEIRYDD |
Iwan Williams - Swyddfa’r Comisiynydd |
|
Pobl Hŷn |
Ryland Doyle Ymchwilydd Mike Hedges |
Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr |
|
Cenedlaethol |
Andi Lyden, Ymddiriedolaeth Gofalwyr |
Ruth Crowder, Cynghrair Ail-alluogi Cymru |
Andrew Bell, SSIA |
Cathrin Manning, y Groes Goch |
Catherine Evans, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Marion Lowther, Cyswllt â’r Henoed |
Pobl Hŷn |
|
Cerys Furlong, NIACE |
Karyn Morris, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol |
Janet Pinder, DeafBlind |
|
Jessica Bearman, GIG Cymru |
|
John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr |
|
Cymru |
|
John Moore, Age Cymru |
|
Laura Nott, Age Cymru |
|
Lisa Turnbull Y Coleg Nyrsio Brenhinol |
|
Lorraine Morgan |
|
Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro |
|
Manel Tippett RCP |
|
Mike Hedges AC |
|
Dr Phil Evans, ADSS Cymru |
|
Raja Adnan Ahmed, RCP |
|
Robyn Miles, Glaxo Smith-Kline |
|
Rosanne Palmer, Age Cymru |
|
Ryland Doyle Gwasanaeth Cymorth i Aelodau’r Cynulliad |
|
Steve Watson, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru |
|
Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD |
|
Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd Mike Hedges AC bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau.
Materion yn codi o’r cyfarfod blaenorol.
Nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion blaenorol.
Cyflwyniad gan Jessica Bearman, GIG Cymru
Cyflwynodd Jessica Bearman ei hun fel Dietegydd Blaen yn y Gwasanaeth Caffael yn y GIG yng Nghymru.
Mae yna agwedd negyddol at fwyd yn y GIG ar hyn o bryd; rydym yn galw am gyhoeddusrwydd cadarnhaol ar faeth er mwyn atal diffyg maeth. Gydag 20 miliwn o bobl yn yr UE yn dioddef o ddiffyg maeth a 16-29% o boblogaeth lleoliadau gofal, ac 1 o bob 3 o’r bobl dros 65 oed sydd yn yr ysbyty yn dioddef o ddiffyg maeth, mae angen gwneud mwy i atal hyn. Mae angen clustnodi 13 biliwn i fynd i’r afael â diffyg maeth. Hyd yn oed os gallwn wneud gwahaniaeth bach, gallwn gefnogi’r GIG yn ariannol, hyd yn oed o 10%.
Mae safonau bwyd gorfodol yn pennu sut y dylai safonau maeth fod yn gysylltiedig â bwydlenni sef, ‘bwyd ar gyfer iechyd da’. Byddai cleifion mewn ysbytai yn elwa o ddiet da yn enwedig pobl sydd â diabetes. Mae cawliau paced ar ffurf powdr yn dal i gael eu rhoi i gleifion mewn ysbytai - nid yw’r rhain yn ddigon da oherwydd nid oes manteision maethol yn gysylltiedig â hwy.
Mae angen cawl ffres a byrbrydau pwrpasol rhwng prydau mewn ysbytai a chartrefi gofal. Mae angen inni hefyd ystyried grwpiau amrywiol, llysieuwyr, feganiaid a phobl sydd wedi cael strôc - mae angen iddynt gael bwyd maethol addas fel bwydlen addasedig pwrpasol. Dylai pawb gael yr un ystod ac amrywiaeth, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwasanaethu ar gyfer y mwyafrif ac nid y lleiafrif.
Gyda’r llwybr gofal, mae angen cael offeryn sgrinio wedi’i ddilysu megis siart llif i gofnodi arfer gorau ar gyfer statws maethol. Mae angen rhagnodi cymorth maethol gan ofyn i bobl ‘pa fwyd fyddai orau gennych?’
Mae ‘Sgiliau maeth am oes’ yn cael ei arwain gan Lisa Williams, gyda staff cymunedol yn derbyn hyfforddiant pellach o ran gwybodaeth am driniaeth yn y gymuned. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd
Pobl Hŷn ag elfen ‘maeth mewn lleoliadau gofal’ pwrpasol i’w gwaith ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gweithio’n agos gyda’n gilydd. Mae ‘Menus Counting Care’ yn offeryn lle gallwch ddatblygu bwydlenni a ryseitiau ar-lein gan ddefnyddio darpariaeth safonol. Mae Mark Drakeford AC yn ymuno â’r ymgyrch farchnata ac ymwybyddiaeth ‘mind the hunger gap’
felly mae hyn yn flaenoriaeth uchel i wleidyddion.
Steve Watson, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Siaradodd Steve am ei gefndir a nododd y bu’n arolygydd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru cyn gweithio i Goleg Brenhinol y Nyrsys.
Mae maeth yn sylfaenol i ofal, mae’n bwysig i breswylwyr a pherthnasau ac mae gofal maethol yn rhan hanfodol o’r cynllun gofal. Nid yw bwyd yn ymwneud â’r hyn rydym yn ei fwyta yn unig, ond yn hytrach lle rydym yn ei fwyta a gyda phwy, ac mae cymdeithasu gyda theulu a ffrindiau yn rhan allweddol o hyn.
Mae adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ‘Lle i’w alw’n gartref’ a John
Kennedy o Sefydliad Joseph Rowntree yn edrych ar bob maes o faeth yn wahanol. Mae adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn yn canolbwyntio ar fwyta yn dod yn ‘brofiad bwyta’ gyda mwy o hyblygrwydd o ran amseru pryd i fwyta mewn cartrefi gofal. Ar hyn o bryd, mae bwydo yn cael ei weld fel tasg i’w chwblhau. Mae John Kennedy yn edrych ar ofal ar draws y DU, yn enwedig ar ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar berthynas, er enghraifft, ‘os ydym am i staff fod yn dosturiol, mae angen iddynt fod yn dosturiol’.
Dylai gofal urddasol fod yn hanfodol wrth weithio tuag at anghenion maeth a gofal mewn cartref gofal. Mae asesiad maethol yn awgrymu:
● Dŵr yfed ffres
● Gwirio’r cynllun gofal yn rheolaidd
● Monitro i gofnodi hylif a diet
● Siartiau maeth - mesur faint maen nhw wedi bwyta ac yfed
Mae angen inni sicrhau bod pobl yn gwybod bod bwyd a diod ar gael, gan ddarparu proses fwyta hamddenol, amserol o fewn cyrraedd hawdd. Mae hefyd angen dewis, a chael amrywiaeth o fwyd ar gael sy’n edrych yn flasus.
Pam y dylai cartrefi gofal gael bwyd sy’n edrych fel bwyd o safon seren Michelin? Gyda chogyddion da, sy’n cael hyfforddiant rheolaidd, ymgysylltu â phobl, rheolaeth ariannol a ffynonellau lleol, gall y bwyd fod yn rhagorol. Mae ‘Menus Count’ yn Nhorfaen yn enghraifft ardderchog o hyn - gyda’r cymorth sydd ei angen ar bobl ar unrhyw adeg yn eu bywyd o fewn y cartref.
Cwestiynau
Nancy Davies - a yw’r un safonau yn berthnasol i ddadhydradu?
Jessica Bearman - ydy mae hydradiad yn bwysig ym mhob lleoliad gofal gyda diodydd yn cael eu llenwi yn rheolaidd.
Lynda Wallis - mae amseroedd prydau bwyd yn cael eu gosod yn ôl rotas staff, gyda chinio’n cael ei weini am 4pm a’r rhan fwyaf o brydau prynhawn yn cael eu gweini gyda thatws stwnsh - mae angen mwy o ddychymyg a hyblygrwydd o ran y bwyd. Mae staffio yn anodd ac mae’r amgylchedd wedi dod yn sefydliadol. Mae ffrind i mi ar hyn o bryd yn yr ysbyty, mae hi’n gwneud dim drosti hi’i hun, er ei bod hi’n gallu gwneud.
Steve Watson - Mae’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu newydd yn ei wneud yn ofynnol i gartrefi gofal ddarparu gwasanaeth da. Nid oes dim yn atal pobl rhag defnyddio’u dychymyg, os byddwch yn gweithio gyda’r arolygiaeth a’r awdurdod lleol, gallwch ddod o hyd i ffordd o wneud unrhyw beth.
Lisa Turnbull - roeddwn i yn yr ysbyty yn ddiweddar ac roedd y bwyd yn wych, yr oeddwn wedi fy synnu. Roedd y staff yn ddig am y rheolau llymach ynghylch gwastraff er mwyn arbed arian, gan y byddai’n lleihau ansawdd. Gyda’r agenda lymder, mae gwaith rhagorol yn cael ei wneud, ond oherwydd toriadau bydd safonau yn gostwng.
Jessica Bearman - Mae ansawdd maeth yn darged hawdd ar gyfer toriadau. Mae angen edrych ar gynaliadwyedd gwastraff drwy’r gwasanaeth archebu. Bydd cael dewis yn helpu i leihau gwastraff gyda’r person yn dewis eu bwyd ar gyfer y 1-2 wythnos nesaf, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n boblogaidd ac yn gweithio’n dda. Gallai maint dognau leihau gwastraff hefyd, gan roi i’r person y swm cywir ar ei gyfer.
Lorraine Morgan - mewn cyfadeiladau tai gofal ychwanegol, mae pobl yn dal i dderbyn bwyd piwrî ac yn aros tan yn hwyr iawn yn y dydd i fwyta. A fydd y safonau yn gymwys i dai gofal ychwanegol? Rwyf wedi clywed bod pobl yn aros o 8:00am tan 7:30 ar gyfer eu pryd nesaf.
Mike Hedges AC - Rydym yn gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na mewn ysbytai.Mae problem effeithlonrwydd â maeth, nid dim ond problem ariannol.
Steve Watson - o ran tai gofal ychwanegol, mae angen i ni hyfforddi pobl sy’n darparu’r gwasanaeth gofal cartref. Maent wedi’u cofrestru gyda’r arolygiaeth, ond mae angen cael cynllun maeth fel rhan o’u gwaith.
Raja Adnan Ahmed - mae angen mwy o hyfforddiant ar staff cartrefi gofal, yn enwedig hyfforddiantdementia oherwydd weithiau mae angen atgoffa pobl â dementia i fwyta. Mae rhwymedd yn broblem fawr a gall hyn fod o ganlyniad i ddiffyg maeth da.
John Moore - mae bwyd a diod mewn cartrefi gofal yn golygu mwy na bwyta, mae’n ymarferol ac yn gysylltiedig â hamdden - rydym yn cael bwyd pan fyddwn ni ei eisiau. Er enghraifft, mae cymydog yn galw heibio ac rydych yn cael paned o de gyda nhw. Mae’n ‘brofiad bwyta’ cymdeithasol. Mae adnoddau My Home Life newydd ar gael sy’n canolbwyntio ar y ‘profiad bwyta’ hwn o ran pa ffurf y mae hyn yn ei gymryd mewn cartref gofal. Caffaeliad mawr mewn cartrefi gofal yw’r bobl sy’n byw yno - er enghraifft, roedd gan un o’r trigolion benywaidd 50 mlynedd o brofiad o goginio ar gyfer ei theulu - a ydym yn gorfodi ein profiad arnyn nhw yn hytrach na defnyddio eu profiad hwy.
Jessica Bearman - rydym yn awgrymu cyflwyno bwydlen ddarluniadol gan fod rhai pobl yn ei chael yn anodd adnabod prydau bwyd.
Lisa Turnbull - ceir lefelau gwael iawn o staffio mewn ysbytai gyda 13 o gleifion ar gyfer pob aelod o staff. O ran monitro, y peth cyntaf i fynd yw cynllun maeth, ‘a yw’r person hwn wedi bwyta?’ - mae hyn yn effeithio ar faeth. Ceir y bleidlais yn fuan ar gyfer y ‘lefelau diogel staff nyrsio’ yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae angen i ni wneud mwy i godi hyn. Os oes gennych lai o nyrsys rheoledig mae’n effeithio ar staff sy’n teimlo dan bwysau i wneud pethau eraill - mae angen tîm cyfan.
Mike Hedges AC - Mae gweinwyr i helpu gyda phrydau bwyd yn PABM.
Lisa Turnbull - mae yna bobl sydd eisiau bwyta a sgwrsio ond weithiau mae perthnasau yn cael eu hystyried yn rhwystr, ond gallan nhw helpu.
Jessica Bearman - mae safonau yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau gofal i ddiogelu’r gyllideb arlwyo gydag ysbytai.
Argymhellion / camau i’w cymryd
Ni chafodd dim argymhellion a/neu gamau eu nodi
Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf
14 Hydref 2015 a 10 Chwefror 2016